1,(2),3,4; 1,(2),3; 1,(3),4. Mae fy nghalon am ehedeg Unwaith eto i fyny fry I gael profi'r hen gymdeithas Gynt fu rhyngof a thydi; Mi a grwydrais anial garw, Heb un gradd o olau'r dydd; Un wreichionen fach o'th gariad Wna fy rhwymau oll yn rhydd. Ni raid i mi guddio'th gariad Fel cariadau gwag y byd, Mi gyhoedda o flaen y werin, Dy fod wedi dwyn fy mryd; Mae dy enw mawr mor werthfawr, Ni chwylyddiaf 'hono mwy, Mae dy gariad pur mor gryfed, Anorchfygol yw ei glwy'. Pe bai'r holl gystuddiau mwya'n Gwasgu ar fy enaid gwan, A'r gelynion oll yn rhwystro'r Nefol dân i godi i'r lan, Pan ddechreuo nid oes derfyn; Cadarn natur cariad yw Sydd yn distaw fynd a'm henaid Ohono'i hun i fynwes Duw. Mae fy nghalon yn 'sgrifennu Ac yn adrodd wrthi'i hun Enw hyfryd a rhinweddol Duw yn gwisgo natur dyn: Iachawdwriaeth, iachawdwriaeth, Iachawdwriaeth werthfawr iawn Ydyw enw fy Ngwaredwr Gennyf fore a phrynhawn. 1,2,3,4; 1,2,3,5. Mae fy nghalon am ehedeg, Unwaith etto uwch y lli', I gael profi'r hen gymdeithas, Gynt fu rhyngwyf a thydi; Mi a grwydrais anial garw, Heb un gradd o olau'r dydd; Un wreichionen o dy gariad Wna fy rhwymau oll yn rhydd O distawa nghalon ynfyd, Na chais wrthddrych arall mwy; Digon, mwy na digon ydyw, A dioddefodd farwol glwy', Ffarwell ddaear a'i theganau, Nid y'ch ond y twyll i gyd: Uwch yr wybren mae blaguryn, Dâl roi arno'm serch a mryd. Iesu hawddgar rwi'n dy ddewis, Nerth i ddilyn ôl dy droed; Yna caiff fy enaid 'hedeg I'r happusrwydd penna 'rioed: Ni raid teithio'r ddaear mwyach, Ymhlith temtasiyuau'r llawr, Ond disgleirio 'mysg myrddiynau, Gylch yr orsedd fel y wawr. Cân fy enaid mwy bydd lawen, Minnau ddof er tonnau maith, Grym afonydd, llid gelynion, Cyn bo hir i ben fy nhaith: Mi gâf orphen dyrys anial, Myn'd i blith y dyrfa fawr, A châf fod heb ddim i'm blino, Yn eu cwn'ni fel y wawr. Ac er mwyn y gwaed a gollwyd, Cymysg ddw'r o'i ystlys E', Tŷn bob cwmwl dudew tywyll, Ag sydd rhyngwy'n awr a'r ne'; Maddeu i mi feiau mawrion, Beiau lawer fwy na rhi', Dim ond edrych ar Galfaria, Nid wrth edrych arnaf fi. happusrwydd penna 'rioed :: hapusrwydd uwch y rhod temtasiyuau'r llawr :: pryfed gwael y llawr
Tonau [8787D]:
gwelir: |
My heart wants to fly Once again up above To get an experience of the old society Which there once was between me and thee; I have wandered a rough desert, Without a single degree of daylight; One little spark of thy love Will make all my bonds loose. I need not hide thy love Like the empty loves of the world, I will publish before the folk, That thou hast taken my attention; Thy great name is so precious, I will not be ashamed of it any more, Thy pure love is so strong, Insuperable is its wound. If all the greatest afflictions were Pressing on my weak soul, And all the enemies obstructing the Heavenly fire to lift me up, When beginning there is no end; The strong nature of love it is Which quietly takes my soul From itself to the bosom of God. My heart is writing And reporting to itself The lovely and virtuous name Of God wearing the nature of man: Salvation, salvation, Very valuable salvation Is the name of my Deliverer Which I have morning and evening. My heart wants to fly, Once again above the flood, To get an experience of the old society Which there once was between me and thee; I have wandered a rough desert, Without a single degree of daylight; One little spark of thy love Will make all my bonds loose. Oh quieten my mad heart, That I seek no other object any longer; Enough, more than enough he is, Who suffered a mortal wound, Farewell earth and its trinkets, Thou art nothing but deception altogether: Above the sky there is a shoot, On which to keep my affection and attention. Beautiful Jesus I choose thee, Strength to follow thy footprint; There may my soul fly To the chief happiness ever: There is no need to travel the earth any longer, Amongst the temptations of below, But shine amidst myriads, Around the throne like the dawn. My soul's song henceforth shall be joyful, I shall come, despite vast breakers, Strong river, angry enemies, Before long to my journey's end: I will get to finish the troublesome desert, Go into the midst of the great throng, And get to be without anything wearying me, In their company like the dawn. And for the sake of the blood which was shed, Mixed with water from His side, Remove every dark, thick-black cloud, Which is between me now and heaven; Forgive me great faults, Faults more than number, Only looking on Calvary, Not by looking upon me. chief happiness ever :: happiness above the sky temptations of below :: base worms of the ground tr. 2012,16 Richard B Gillion |
|